Bwrdd Bargeinio’r Gronfa Ynni Glân

Dydd Mercher 27 Mai
Y Mulberry, Conwy, LL32 8GU

10.00am – 3.00pm. Dim mwy na 4 o sesiynau.

Mae’r Gronfa Ynni Glân yn cynnig £24.6 miliwn i gefnogi prosiectau ynni glân yn y Gogledd.

Pwrpas y Gronfa yw rhoi cyllid cynaliadwy a hygyrch i fusnesau er mwyn cyflawni tri o nodau:

  • Sicrhau cydymffurfiaeth â Nodyn Polisi Caffael Cymru 006 fel y ceir mynediad at gadwyni cyflenwi yn awr ac yn y dyfodol.
  • Rhoi’r dewis i fusnesau ddatgarboneiddio eu gweithrediadau drwy drydaneiddio, yn enwedig peiriannau trwm.
  • Mae busnesau ledled y Deyrnas Unedig yn dal ar drugaredd digwyddiadau rhyngwladol, sy’n cael effaith anghymesur ar brisiau ynni. Gall buddsoddi mewn dulliau cynaliadwy, tra lleol o gynhyrchu ynni liniaru ar effaith y cythrwfl mewn marchnadoedd ynni rhyngwladol a rhoi rhywfaint o reolaeth i fusnesau ar eu costau.

Bydd UMi, ar y cyd â’i bartneriaid, yn cynnal Bwrdd Bargeinio cyntaf y Gronfa Ynni Glân i fusnesau Conwy ar 27 Mai 2026 yn y Mulberry, Conwy.

Mae’r Bwrdd Bargeinio’n fforwm buddsoddi ffurfiol sydd â’r nod o gyflymu datblygiad prosiectau ynni glân o’r radd flaenaf ledled gogledd Cymru.

Mae’n rhoi llwyfan i fusnesau sy’n chwilio am fuddsoddiad gan fenthycwr cyfrifol ac yn helpu’r busnesau hynny i weithredu’n fwy effeithlon a chael sicrwydd ynglŷn ag ynni.

Os hoffech chi ddod, neu os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y Bwrdd Bargeinio, cysylltwch â:

Matt Popple – Rheolwr Partneriaethau a Phrosiectau

Matt.Popple@weareumi.co.uk

Mae’r Gronfa Ynni Glân yn cynnig £24.6 miliwn i gefnogi prosiectau ynni glân yn y Gogledd. Bydd yn rhoi’r grym i fusnesau a mudiadau gwirfoddol greu dyfodol cynaliadwy, yn buddsoddi £100 miliwn yn y rhanbarth, yn creu 150 o swyddi newydd ac yn torri hyd at 125,000 o dunelli o garbon deuocsid (CO2e).

Rhennir y gronfa’n ddwy is-gronfa ar wahân i’r sectorau preifat a gwirfoddol.

CLICIWCH YMA I GAEL MWY O WYBODAETH AM Y GRONFA

SHARE ON