Datblygiad Dasnachol ar WerthGweler y pamffled amgaeedig am yr holl fanylion.
Cyfle i Ddatblygu
Rhydd-ddaliad neu Lesddaliad Hir
Lleoliad Canol Tref ac ar y Cei
Neuadd Ddinesig Conwy, sy’n adeilad Gradd II, a’r tir cyfagos sy’n rhan o’r Cei ynghyd â Phlas Isa, Conwy LL32 8AY
Rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO – Castell Conwy a Muriau’r Dref
Arwynebedd llawr mewnol gros o 726 metr sgwâr
Llai na 200 metr i ffwrdd o Gastell Conwy
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yw rhydd-ddeiliad Neuadd Ddinesig Conwy, sy’n adeilad rhestredig Gradd II. Mae tu blaen yr adeilad ar Castle Street a’r cefn yn wynebu aber afon Conwy ar y cei.
Wrth werthu’r adeilad, cynigir cyfle i gaffael tir ychwanegol sy’n rhan o’r ardal gaeedig ar Gei Conwy a maes parcio Plas Isa, os yw’r rhain yn ofynnol i bartïon sydd â diddordeb fedru cyflawni eu cynlluniau.