Academi Mentrau Cymdeithasol

Mae Creu Menter yn falch iawn eu bod wedi cyflwyno’r Academi Arweinyddiaeth byd-eang i Gymru, a gaiff ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r Academi Arweinyddiaeth yn wahanol iawn i raglenni arweinyddiaeth traddodiadol eraill y mae cwmnïau yn gyfarwydd â nhw,  ac yn ystod y 15 mlynedd y mae’r Academi wedi bod yn weithredol, mae’r canlyniadau wedi bod yn wych ar gyfer busnesau ac unigolion sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglenni amrywiol.

Mae’r rhaglenni yn amrywio o 1 diwrnod i 12 diwrnod, o gyrsiau cyflwyno i gyrsiau lefel uwch, gan gynnwys Arweinyddiaeth, Hyfforddi, Menter ac Effaith Gymdeithasol.

Cliciwch YMA i gael rhagor o wybodaeth

SHARE ON