Grant Busnes Cronfa Balchder Bro ConwyMae’r prosiect hwn wedi’i ariannu drwy Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU
Bydd Cronfa Effaith Balchder Bro yn darparu cyllid tymor byr ar gyfer gwelliannau uniongyrchol i sicrhau bod mannau a lleoedd a gaiff eu gwerthfawrogi gan gymunedau yn cael eu gwella.
Mae Amcan cyffredinol y Gronfa wedi’i ddylunio i gryfhau cymunedau, meithrin balchder a chreu sylfeini ar gyfer twf economaidd:
Am ragor o wybodaeth, ewch I
Ar hyn o bryd dim ond gan Fusnesau yn ardaloedd siopa craidd / canolfannau masnachol y trefi canlynol y gellir derbyn ceisiadau
· Llanfairfechan
· Penmaenmawr
· Conwy
· Cyffordd Llandudno
· Deganwy
· Llandudno a Craig y Don
· Rhos on Sea
· Bae Colwyn
· Hen Colwyn
· Llanrwst
· Abergele a Phensarn,
· Bae Kinmel a Towyn
Mae’r cynllun yn cynnig cyllid o HYD AT 70% ar wariant cyfalaf a/neu refeniw cymwys ar gyfer prosiectau, gyda dyfarniadau o £3,000 hyd at £25,000 yn cael eu cynnig.
Bydd grant Busnes Cronfa Balchder Bro yn galluogi darparu grantiau i fusnesau masnachol neu gymdeithasol lleol (pan fo gweithgarwch masnachol) sydd yn: –
• gobeithio sicrhau bod eiddo masnachol gwag yn cael eu defnyddio eto
ac/neu
• gobeithio cyflwyno technoleg carbon isel i’w heiddo busnes, yn benodol ynni solar, system wresogi carbon isel, mannau gwefru cerbydau trydan a goleuadau LED
Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn cymorth buddsoddi, mae’n rhaid i fusnesau gael eu lleoli a’u gweithredu yn Sir Conwy, wedi bod yn masnachu dros 3 mis ac wedi cofrestru gyda CaThEF.
Mae’r cynllun wedi’i dargedu at fentrau bach a chanolig (sy’n cyflogi hyd at 250 o bobl) gydag un ai trosiant o lai na €50 miliwn neu fantolen lai na €43 miliwn
Cyn cyflwyno cais, gofynnir i chi siarad ag aelod o dîm Cymorth i Fusnesau Conwy.
Afonwch ebost i busnes@conwy.gov.uk