Barod i Gysylltu, Dysgu a Thyfu?

Ymunwch â ni ar gyfer Digwyddiad Rwydweithio Busnes Blynyddol Gogledd Cymru – cyfle gwych i danio syniadau, meithrin partneriaethau a chael adnoddau i ffynnu yn y byd sy’n newid mor gyflym.

📅 Dyddiad:  Dydd Iau 29ain Ionawr, 2026
📍 Lleoliad: Ystafell Gonwy, Gwesty St George, Llandudno
🕒 Amser: 8.45yb – 11.45 yp

Rydym wedi trefnu rhestr anhygoel o siaradwyr a fydd yn rhannu mewnwelediadau ymarferol a strategaethau arloesol i helpu’ch busnes i lwyddo:

✅ RCS – Vanessa Trimble: Cyfle i ddarganfod yr ymyriadau diweddaraf i wella iechyd meddwl yn y gweithle – gan roi hwb i bobl a pherfformiad.

✅ Porth Sgiliau Gogledd Cymru – Rees Brown: Cyfle i archwilio platfform pwerus ar gyfer hyfforddi, uwchsgilio a datblygu’r gweithlu ar draws sectorau allweddol fel sgiliau gwyrdd a thrawsnewid digi

✅ Grŵp Llandrillo Menai (GLlM) – Stephen Lloyd: Cyfle i ddysgu sut gall Busnes@LlandrilloMenai gefnogi twf eich busnes trwy hyfforddiant a datblygu sy’n arwain y sector.

✅ Cysylltu a Gwaith – Gary Wyn Jones: Cyfle i gael mewnwelediad ar raglen newydd sy’n cynnig cefnogaeth cyflogaeth wedi’i theilwra ar gyfer unigolion a chyflogwyr ar draws gogledd Cymru, wedi’i darparu mewn partneriaeth gydag Awdurdodau Lleol a phartneriaid a gomisiynwyd.

Mae’r digwyddiad hwn yn fwy na rhwydweithio – mae’n gyfle i ddatgloi cyfleoedd, ennill gwybodaeth ymarferol a chysylltu â’r bobl gywir i roi hwb i’ch busnes.

👉 Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, felly archebwch eich lle heddiw!

COFRESTRWCH YMA

SHARE ON