Gweminar Small Business Britain

DIGIDOL AR GYFER TWF

Dydd Mawrth 11 Chwefror, 10am

Ydych chi’n barod i fynd â’ch busnes bach i’r lefel nesaf?

Yn y gyfres arbennig hon o weminarau, ymunwch â’r arbenigwr marchnata digidol ac Entrepreneur #iAlso100 Kate Williams, sylfaenydd KW Marketing, yn y gweminar diddorol hwn.

Yn y sesiwn hon, bydd Kate yn trafod hanfodion alinio eich brand, delwedd a’ch cyfryngau cymdeithasol i greu presenoldeb ar-lein cadarn a chyson sydd wir yn berthnasol i’ch cynulleidfa.

Mae Kate wedi helpu nifer fawr o berchnogion busnes bach i roi hwb i’w twf, cynhaliaeth a refeniw trwy bŵer marchnata digidol ac mae hi yma i rannu ei mewnwelediad gyda chi.

Yr hyn fyddwch yn ei ddysgu:

– Pam fod marchnata digidol yn hanfodol i lwyddiant busnesau bach

– Sut i alinio eich brand, delwedd a’ch cyfryngau cymdeithasol i gael yr effaith fwyaf posibl

– Yr allwedd i greu presenoldeb digidol sy’n adeiladu ymddiriedaeth ac yn denu cwsmeriaid

– Awgrymiadau effeithiol y gellir gweithredu arnynt ar gyfer perchnogion busnesau bach er mwyn iddynt ddefnyddio marchnata digidol yn strategol

– Mewnwelediad i sut all marchnata digidol fod yn sbardun allweddol ar gyfer twf

COFRESTRWCH AR GYFER Y GWEMINAR YMA

SHARE ON