Benthyciadau Canol Trefi

Cyllid gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i gynnig benthyciadau buddsoddi cyfalaf di-log i adfywio eiddo mewn nifer o ardaloedd canol trefi

Rydym wedi sicrhau cyllid gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i gynnig benthyciadau buddsoddi cyfalaf i adfywio eiddo mewn nifer o ardaloedd canol trefi sef:

  • Abergele a Phensarn
  • Towyn a Bae Cinmel
  • Bae Colwyn (gan gynnwys Llandrillo yn Rhos)
  • Mochdre a Hen Golwyn
  • Llandudno (gan gynnwys Craig-y-don)
  • Bae Penrhyn a Llandrillo yn Rhos
  • Conwy (gan gynnwys Deganwy a Chyffordd Llandudno)
  • Llanrwst
  • Penmaenmawr
  • Llanfairfechan

Prif nodau’r cynllun yw lleihau nifer y safleoedd ac eiddo masnachol sy’n cael eu tanddefnyddio a/neu sy’n wag ac wedi bod yn wag am gyfnod hir mewn canol trefi, a chefnogi adferiad economaidd canol trefi. Defnyddir y benthyciad i wella a rhoi ail-bwrpas i eiddo ar gyfer perchnogaeth barhaus i werthu, rhentu neu ailddefnyddio safleoedd gwag.

  • Benthyciadau hyd at £100,000 (caiff ceisiadau am symiau mwy eu hystyried fesul achos)
  • Di-log (codir ffi weinyddol)
  • Ad-daladwy dros 3 – 5 mlynedd
  • Ni ellir ei ddefnyddio i ad-dalu benthyciadau presennol
  • Bydd gwiriadau fforddiadwyedd yn cael eu cynnal ar ymgeiswyr

Disgwylir i bob prosiect a gefnogir gan y cynllun gyfrannu at rai o’r allbynnau canlynol:

  • Ail ddefnyddio safleoedd gwag yn gynaliadwy
  • Cefnogi creu swyddi / twf busnes
  • Cefnogi hyfforddiant/ recriwtio a dargedir yn ystod y gwaith adfer / trosi eiddo
  • Cynyddu cyflenwad a safon y lle sydd ar gael yng nghanol trefi
  • Cefnogi bwrlwm a bywiogrwydd canol trefi
  • Cyfrannu at adferiad economaidd canol trefi

I drafod eich cynnig, cysylltwch â:

Katie Minton Rowlands
Swyddog Prosiect Datblygu ac Adfywio

Rhif Ffôn: 01492 577329
E-bost: katie.minton-rowlands3@conwy.gov.uk