Rhaglen digwyddiadau ymgynghori’r Ardoll Ymwelwyr

Ar 14 Mai 2026, cymeradwyodd y Cyngor symud ymlaen i ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno Ardoll Ymwelwyr ar draws y sir. Agorwyd yr ymgynghoriad yn ffurfiol ar 20 Mai 2026.

Mae’r ymgynghoriad yn agored i holl drigolion, ymwelwyr a busnesau Conwy a byddem yn eich annog i gymryd rhan a’i hyrwyddo’n eang yn eich ardaloedd lleol.

Gellir cael mynediad at yr ymgynghoriad ar-lein drwy wefan y Cyngor:
Ymgynghoriad arfaethedig ar y dreth ymwelwyr yn Sir Conwy – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Bydd copïau papur o’r ymgynghoriad hefyd ar gael i’w casglu a’u dychwelyd mewn Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid, Llyfrgelloedd Conwy, Canolfan Fusnes Conwy, a Swyddfeydd y Cyngor yng Nghoed Pella.

Gofynnir am ymatebion erbyn 17 Gorffennaf 2026 fan bellaf.

Mae rhaglen o ddigwyddiadau a sesiynau galw heibio wedi’u trefnu i roi cyfle i fusnesau, ymwelwyr a thrigolion glywed mwy am y broses ymgynghori ac ymgysylltu wyneb yn wyneb os yw’n well ganddynt.

WYNEB YN WYNEB

Dydd Iau 16th Mehefin 2026 – Maen Alaw Penmaenmawr Sesiwn galw heibio ar gyfer busnesau, preswylwyr ac ymwelwyr ym Mhenmaenmawr / Llanfairfechan.

Dydd Mercher 17 Mehefin 2026 – Canolfan Ddiwylliant Conwy Sesiwn galw heibio i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr yng Nghonwy / Deganwy / Llandudno.

• Dydd Iau 18 Mehefin 2026 – Neuadd y Dref Cyngor Tref Bae Colwyn Sesiwn galw heibio i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr ym Mae Colwyn / Llandrillo-yn-Môr.

• Dydd Mawrth 23 Mehefin 2026 – Neuadd Goffa Betws y Coed Sesiwn sy’n canolbwyntio ar letygarwch ar gyfer busnesau gwledig.

• Dydd Iau 25 Mehefin 2026 – Canolfan Gymunedol Towyn Sesiwn galw heibio i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr yn Abergele / Bae Cinmel / Towyn.

Gallwch gofrestru eich presenoldeb drwy glicio ar y ddolen isod:

Discover Visitor Levy Events & Activities in Colwyn Bay, United Kingdom | Eventbrite

SHARE ON