Ardoll Ymwelwyr Ymgynghoriad

Ar 14 Mai 2026, cymeradwyodd y Cyngor symud ymlaen i ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno Ardoll Ymwelwyr ar draws y sir. Agorwyd yr ymgynghoriad yn ffurfiol ar 20 Mai 2026.

Mae’r ymgynghoriad ar agor i holl drigolion, ymwelwyr a busnesau Conwy a byddem yn eich annog i gymryd rhan a’i hyrwyddo’n eang yn eich ardaloedd lleol. Gofynnir am ymatebion erbyn 17 Gorffennaf 2026 fan bellaf.

Gellir cael mynediad at yr ymgynghoriad ar-lein drwy wefan y Cyngor:

Ymgynghoriad arfaethedig ar y dreth ymwelwyr yn Sir Conwy – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Bydd copïau papur o’r ymgynghoriad hefyd ar gael i’w casglu a’u dychwelyd mewn Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid, Llyfrgelloedd Conwy, Canolfan Fusnes Conwy, a Swyddfeydd y Cyngor yng Nghoed Pella.

Mae cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu wyneb yn wyneb yn cael eu trefnu ar hyn o bryd, gyda’r digwyddiad cyntaf wedi’i drefnu ar gyfer dydd Mawrth 2 Mehefin 2026.

Gallwch gofrestru eich presenoldeb trwy glicio ar y ddolen hon:

https://www.eventbrite.co.uk/e/ymgynghoriad-ardoll-ymwelwyr-visitor-levy-consultation-tickets-1990178619826?aff=oddtdtcreator

Dyma’r cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ar gyfer yr ymgynghoriad ar ardoll ymwelwyr. Bydd manylion digwyddiadau eraill yn dilyn yn fuan.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr ymgynghoriad, cysylltwch â: tourism@conwy.gov.uk

SHARE ON