Mae Tîm Cymorth i Fusnesau Conwy yma i’ch helpu chi. Rydym yn cynnig gwasanaeth am ddim, di-duedd gan eich cefnogi a’ch cyfeirio at y cyngor a’r wybodaeth berthnasol.
Bob blwyddyn drwy gyfarfodydd wyneb yn wyneb, digwyddiadau a’n hamrywiol lwyfannau cyfathrebu, bydd Tîm Cymorth i Fusnesau Conwy yn ymgysylltu â dros 6,000 o fusnesau ar draws Sir Conwy.
Yn Sir Conwy mae cymuned fusnes ffyniannus o fentrau bach, canolig a chymdeithasol, ac mae Tîm Cymorth i Fusnesau Conwy yn bwynt cyswllt allweddol sy’n sicrhau bod gan fusnesau fynediad at wybodaeth yn ogystal â’r gefnogaeth a’r cyngor angenrheidiol.
Os hoffech siarad ag aelod o’r Tîm Cymorth i Fusnesau neu gofrestru ar gyfer ein newyddlen, anfonwch e-bost at business@conwy.gov.uk.