Grant Cefnogi Busnes Conwy
Hyd at £1500
Grant dewisol i gefnogi twf busnesau, mentrau
cymdeithasol neu brosiectau arallgyfeirio ffermydd
yng Nghonwy. Mae grantiau rhwng £200 a £1500 ar gael yn seiliedig ar 50% o gostau cymwys y prosiect.
Pa un ai yw eich menter yn newydd neu wedi’i sefydlu gall y
grant helpu i dalu am brosiectau fydd yn cynyddu eich elw a’ch trosiant. Hoffem glywed gennych hefyd, os yw’r prosiect yn debygol o gynyddu nifer y swyddi yn y sefydliad neu arwain at welliannau sylweddol i’r amgylchedd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhan fwyaf o sectorau, ac os yw eich prosiect yn gymwys, gallwn helpu i brynu offer cyfalaf, deunyddiau marchnata neu hyd yn oed hyfforddiant arbenigol.
I ddarganfod a yw eich prosiect yn gymwys, cysylltwch â’r:
Tîm Cefnogi Busnes – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
01492 574 525 ● E-bost: ecodev@conwy.gov.uk