Mae Adcote House yn dŷ gwestai pedair seren gyda gwely a brecwast yn Llandudno.
Daeth Mike a Diane Dean yn berchen ar y busnes ychydig o flynyddoedd yn ôl. Roedd Mike wedi gweithio o’r blaen yn y maes twristiaeth ac mae’r ddau’n awyddus i redeg Adcote House mewn ffordd mor gynaliadwy ag y bo modd, er mwyn lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd.
Mae Mike a Diane yn cymryd rhan yn y Cynllun Twristiaeth Werdd a dyfarnwyd lefel Arian iddynt. Maent hefyd wedi cael eu hachredu o dan y Cynllun Green Key – y cyntaf yng Ngogledd Cymru.
Aethant hefyd i rownd derfynol categori Busnes Gwyrdd y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Conwy 2016.
Cyn belled ag y bo modd, mae’r gwesty’n defnyddio cyflenwyr lleol. Nid dim ond ar gyfer bwyd ond ar gyfer cynnyrch ymolchi a glanhau. Defnyddir cynnyrch Masnach Deg ar gyfer cynhyrchion sy’n dod o bellach i ffwrdd.
Anogir Gwesteion i ddilyn esiampl Adcote House drwy ddilyn eu Siarter Ymwelwyr Cyfrifol. Dywedodd Mike bod gwesteion yn edmygu ymrwymiad y perchnogion ac, yn wir, mae’r cynllun wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i aros yn y gwesty. Mae ymwelwyr tramor yn arbennig o awyddus i gymryd rhan.
Gyda chymorth gwesteion, mae Adcote House yn amcangyfrif eu bod wedi lleihau faint o wastraff masnachol sy’n mynd i safleoedd tirlenwi o 500% dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn y deuddeg mis diwethaf mae dros 2500 litr a 200kg o blastig, gwydr, metelau a phapur wedi eu hailgylchu (mewn safleoedd lleol).
Mae’r holl wastraff bwyd yn mynd i dreuliwr biomas lleol sy’n cynhyrchu trydan sydd yna’n cael ei fwydo i’r grid cenedlaethol.
Mae Mike a Diane bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella ymhellach. Er enghraifft, maent yn disodli’r holl oleuadau yn y gwesty gyda goleuadau LED ac wedi gosod synwyryddion goleuni ar y landins.
Cliciwch yma os hoffech wybod mwy am y Cynllun Twristiaeth Werdd ac yma os hoffech wybod mwy am y Cynllun Green Key.
Byddai Mike a Diane yn barod i rannu eu gwybodaeth gyda busnesau eraill sydd â diddordeb mewn bod yn wyrdd ac yn gynaliadwy. Mae manylion ar gael ar wefan Adcote House